Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021
Amser:
09.03 -
09.18
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AS.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am frechiadau COVID-19, yn ogystal â newid bach i deitl y datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg. Dywedodd y byddai datganiad ar frechlynnau bob wythnos hyd y gellir rhagweld.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.55pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19 (30 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (15 munud)
Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19 (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 24 Chwefror 2021 -
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 1 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd ar ddyddiad cau diwygiedig o 25 Chwefror i’r Pwylgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cam-drin Domestig at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda'r un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.
4.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau diwygiedig o 25 Chwefror i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil Amgylchedd y DU.
Unrhyw faterion eraill
Newidiadau i Bwyllgorau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y grŵp Ceidwadol yn dymuno gwneud newidiadau i’w aelodaeth ar bwyllgorau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r cynigion i wneud y newidiadau hyn ar gyfer y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Cyfarfod Ychwanegol
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r agenda ar gyfer cyfarfod ychwanegol nesaf y Pwyllgor Busnes ar 1 Chwefror fydd:
• Sub judice;
• Adalw;
• Rheolau Sefydlog Dros Dro;
• Pleidleisiau cyfrinachol mewn Cyfarfod Llawn rhithwir/hybrid;
• Aelodaeth a chydbwysedd Pwyllgorau; a
• Grwpiau – diffiniad.